|
|
||||||||||||||||||
|
Adnoddau Dŵr O’r 73 miliwn litr a echdynnwyd fel dŵr heb ei drin pob dydd, mae 83% yn dod o’r Afon Ddyfrdwy o ddwy prif bwynt echdynnu, mae 10% yn dod o’n cronfeydd dŵr uwchdir a’r 7% sydd ar ôl o ddwy ffynhonnell tan ddaearol. Mae gan yr Afon Ddyfrdwy hanes hir o gydgysylltiad gyda chyfleusterau dŵr yfed, gyda’r echdyniad gyntaf wedi ei ymgymryd yn y 1600au i gyflenwi dŵr i ddinas Caer. Heddiw, mae’r Afon Ddyfrdwy yn darparu cyflenwadau hanfodol o ddŵr i dros ddwy filiwn o bobl sy’n byw yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Mae Dyffryn Dyfrdwy yn gweithio’n agos gydag echdynwyr dŵr ar yr Afon Ddyfrdwy ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn monitorio ansawdd y dŵr a echdynnwyd trwy ddefnyddio cyfarpar soffistigedig iawn sy’n gallu mesur y presenoldeb o lygriad lawr hyd lefelau o bwyntiau i bob mil miliwn. Mae gan Ddyffryn Dyfrdwy cofnod profi o gyflenwi dŵr yn ystod sychder. Nid ydym wedi trethu cyfyngiadau ar y defnydd o ddŵr ers 1990. Mae’r cofnod wedi ei gyflawni gan y gweithrediad effeithlon o’n adnoddau dŵr yn arwain lan hyd ac yn ystod sychder, wedi eu cynorthwyo gan ein hanes hir o lefelau gollyngiadau isel o ddŵr o’n pibellau dŵr. Mae gan Ddyffryn Dyfrdwy un o’r lefelau isaf o ollyngiadau yn y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr. Yn 2004/05 y gollyngiad cyfan oedd 10.63ml/d, a’r mwyafrif yn dod o rwydwaith y cwmni o 1,976kilomedr o brif bibellau dŵr a 90,000 pibell gwasanaeth, rhai ohonyn nhw sydd dros 100 mlwydd oed. Mae gweddill y gollyngiad o bibellau a berchnogwyd gan gwsmeriaid - y rhan hynny o’r bibell gwasanaeth sydd fel arfer rhwng cwrtil adeilad y cwsmer. Mae gollyngiad yn digwydd o bibellau sy’n byrstio neu’n gollwng ac o ddiferiad ar gymalau. Mae’n polisi gennym ni i ddatgelu ac atgyweirio’r gollyngiadau yma, gyda nifer ohonyn nhw’n aros yn gudd tan y ddaear, cyn gynted ag sydd yn bosib. Mae Gollyngiad yn cael ei effeithio’n sylweddol gan amodau tywydd sy’n gallu achosi i’r ddaear o amgylch pibellau i symud ac yn aml yn achosi cracio yn y pibellau. Gall cwsmeriaid cynorthwyo eu hun drwy sicrhau bod gollyngiadau’n cael eu hysbysu pan maen nhw’n dod i’r amlwg (Llinell Gollwng Rhadffôn 0800 298 7112), a trwy gymryd rhagofalu syml i atal byrstiau sy’n cael eu hachosi gan rew. Ein bwriad yw cynnal cyflenwad digonol a diogel o ddŵr i’n holl gwsmeriaid am 24 awr o bob dydd, 365 dydd y flwyddyn. Weithiau bydd cyflenwadau’n yn cael ei ymyrryd er mwyn ymgymryd cynhaliaeth arfaethedig. Ar yr amserau yma mi fyddwn ni’n hysbysu i’n cwsmeriaid mewn ysgrifen cyn dechrau’r gwaith, yn rhoi manylion am yr amser a’r dyddiadau pan fydd eu cyflenwadau yn cael eu heffeithio. Nid yw Digwyddiadau Cynhaliaeth sydd ddim yn arfaethedig - fel arfer byrst prif bibell dŵr - yn gallu cael ei rhagweld ac efallai fydd rhaid i ni ymweithio i fath digwyddiadau. Mae’n fwriad gennym ni i atgyweirio cyflenwadau yn ddiogel a chyn gynted ag sy’n bosib. Yn ystod y flwyddyn yn gorffen Mawrth 31 2005, roedd 8,478 o adeiladau wedi eu heffeithio gan ddigwyddiadau tanfaethedig. Mae’r tabl olynol yn dangos yr adeiladau a effeithiwyd mwyaf :
Os yw cyflenwadau’n cael eu heffeithio am fwy na 12 awr yn yr achos o brif bibell dŵr wedi byrstio, efallai bydd cwsmeriaid â’r hawl i iawndal oni bai fod eithriadau’n gymwys (gweler Cynllun Safonau Gwarantedig).
O bryd i’w gilydd gall y pwysedd yn y lein beipiau anwadalu . Mae’r anwadalu yma gan amlaf yn dod o ddigwyddiadau anghyffredin megis byrst ar brif bibell dŵr neu yn ystod cyfnodau o dreuliant uchel iawn. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus i fwrw’r cydbwysedd cywir gyda phwysedd, oherwydd gall lefelau rhy uchel o bwysedd achosi lefelau uwch o ollyngiad yn y prif bibellau dŵr. Yn 2004, ymgymerodd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy 14,463 o ddadansoddiadau rheoli (Cenedlaethol a Cyfeiriol). O’r rhain, roedd 99.97% yn cyd-fynd gyda’r rheoliadau ansawdd dŵr cyfredol. Mae lefel uchel yma yn gydymffurfiad yn ffurf o’n hymrwymiad ni i sicrhau fod dŵr yn iawn i’w yfed nid yn unig pan mae’n ymadael a’r Gweithle trin, ond hefyd ar bwynt tapiau’r cwsmeriaid. Yn ystod 2004 roeddwn heb adrodd unrhyw ddigwyddiadau i’r rheolydd ansawdd dŵr, yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Weithiau, mae ein cwsmeriaid yn adrodd fod eu cyflenwad yn ddi-liwiedig. Mae hyn gan amlaf wedi eu hachosi gan newidiadau llif sydyn yn y pibellau dŵr sydd yn gallu aflonyddu cyrydiad ar du fewn i bibellau. Pan yn hysbys o’r digwyddiadau yma rydyn ni’n cymryd gweithrediad i fflysio allan a glanhau’r pibellau. Adroddodd rhai o’r cwsmeriaid eu bod wedi datgelu blas neu arogl ar eu cyflenwad dŵr. Mae hyn gan amlaf yn ganlyniad o’r angen i ychwanegu clorin i’r dŵr fel diheintydd. Mae’r proses yma’n sicrhau bod cyflenwadau dŵr yn aros yn ddiogel o facteria o’r amser maen nhw’n ymadael a’r Gweithle trin nes ei bod nhw’n cyrraedd tapiau’r cwsmeriaid. |
||||||||||||||||||