Dee Valley Water Background Hafan Cwsmeriaid eich cyflenwad Dŵr Gwasanaethau Arlein Cymuned Gwasanaethau arall  

Ein Cwsmeriaid Ein Cwsmeriaid Domestig - Lleoli’r Tap Stop
Section underline
Dee Valley Water Background
Section Underline
* Cliciwch eitem o'r ddewislen i'w ehangu

Cwsmeriaid domestig

 
Section Underline

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc

Swyddfa Gofrestredig:
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam LL14 4EH

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3527628


Lleoli’r Tap Stop

Mae’r diagram isod yn dangos lleoliad ein pibellau a’r rheini sydd fel arfer yn gyfrifoldeb i chi. Mae’r tap stop yn marcio’r terfyn rhwng ein pibellau ni a’ch pibellau chi gan amlaf. Os oes gennych chi amheuaeth am gyfrifoldeb, cysylltwch â ni am gyngor.


Yn y rhan fwyaf o achosion mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc dim ond yn berchen ar y rhan rhwng ein prif bibell ddŵr ni a’ch tap stop ar eich terfyn chi. Mae hyd bibell breifat rhwng eich terfyn hyd at y tap stop mewnol yn gyfrifoldeb i chi i’w cynnal a’i atgyweirio. Mae’r cwmni yn cynnig gwasanaeth atgyweirio gyntaf yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid cartref fodd bynnag, cliciwch yma i weld y Telerau a’r Amodau.

Mae’r mesurydd a siambr y mesurydd yn gyfrifoldeb ac yn eiddo i’r Cwmni.

Mewn rhai amgylchiadau efallai byddwch chi’n atebol am bibell gwasanaeth tu hwnt i’ch terfyn chi i’r pwynt lle mae’n cysylltu â thap stop y Cwmni. Mae hyn yn meddwl os oes yna ollyngiad ar eich pibwaith chi mae hi’n gyfrifoldeb arnoch chi i’w atgyweirio.

Os rydyn yn darganfod bod eich pibell gwasanaeth yn gollwng byddwn ni yn gofyn i chi i’w atgyweirio. Os rydych chi’n methu a gwneud hyn, efallai byddwn ni’n cynnal yr atgyweiriad a chodi tâl arnoch chi. Os, mewn achosion eithafol, mae’r gollyngiad yn beryglus i bobl, eiddo neu gyflenwad i gwsmeriaid eraill efallai byddwn yn torri’r cyflenwad i ffwrdd tan fod y gollyngiad yn cael ei atgyweirio.

Os oes gennych chi fesurydd mi fyddwch chi yn talu, wrth gwrs, am dŵr gwastraffus a achoswyd gan ollyngiadau yn eich pibwaith. Mae gennym ni Cod Ymarfer ar Ollyngiad sy’n darparu rhai amddiffyniadau i chi ac mae copi o’r Cod yma ar gael yn ôl cais.

Os rydych chi wedi derbyn cyngor gan Swyddfa Iechyd yr Amgylchedd i ddiddymu holl bibwaith a ffitiadau plwm o’ch adeilad fel canlyniad o adnabod problem blwm, byddwn ni yna yn amnewid unrhyw bibwaith plwm sy’n cyflenwi’r adeiladau yna sy’n gyfrifoldeb arnom ni, ar ein cost ni. Efallai bydd Grantiau Awdurdod Lleol ar gael i’ch helpu cyforo’r gost o ailosod pibellau sydd yn gyfrifoldeb i chi.

Mewn rhai adeiladau gall problemau cyfodi lle mae cwsmeriaid wedi rhannu cyfrifoldeb am gynhaliaeth ac atgyweiriad. Efallai bydd yna broblemau hefyd gyda galw lluosog yn deillio mewn gwasgedd a llif isel ysbeidiol. Am y rhesymau yma mae gan y Cwmni polisi o gadw cyflenwadau newydd ar wahân. Lle mae’r problemau uchod yn bodoli efallai bydd rhaid rhannu unrhyw adnoddau a rhannwyd er mwyn datrys problemau cyflenwi.

Os yw’r bibell mewn cyflwr gwael, byddwn ni fel arfer yn gofyn i bob cwsmer sy’n rhannu eu cyflenwad i rannu’r gost o ail osod gyda phibellau ar wahân; bydd hyn yn gwella’r llif ac ansawdd y dŵr yn eich tap.

Rydym ni fel arfer yn gofyn am bibellau gwasanaeth ar wahân yn lle pibell gyfrannol pe bai:

  • Un o’r tai ar y bibell gyfrannol yn cwympo i mewn i ôl-ddyled taliadau;
  • Y tai yn cael eu trawsnewid i nifer fawr o dai neu fflatiau;
  • Y bibell rannol yn cael ei ymyrryd gyda neu fod cyflenwad yn gyfyngedig i ddefnyddwyr eraill

Gall unrhyw ddadlau am ofynion i gyflenwadau ar wahân cael eu cyfeirio at y Cadfridog Cyfarwyddwr o ‘OFWAT’.

Mae gan y Cwmni'r hawl i osod a chynnal pibellau dŵr ar dir preifat. Rydym ni yn gweithredu Cod Ymarfer i Osodiad Pibellau sydd ar gael yn ôl y gofyn, neu’n cael eu dosbarthu’n awtomatig i adeiladau ag effeithiwyd lle mae prif bibell dŵr yn cael ei gynllunio.