Dee Valley Water Background Hafan Cwsmeriaid eich cyflenwad dŴr Gwasanaethau Arlein Cymuned Gwasanaethau arall  

Gwasanaethau Eraill Ansawdd Dŵr – Adolygiad Gweithrediadau
Section underline
Dee Valley Water Background
Section Underline
* Cliciwch eitem o'r ddewislen i'w ehangu

 
Section Underline

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc

Swyddfa Gofrestredig:
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam LL14 4EH

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3527628


Adolygiad Gweithrediadau

Roedd cyfanswm y glaw ar gyfer y flwyddyn yr adroddir amdani yn 108% o’r cyfartaledd hirdymor gyda phum mis â glaw oedd yn llai na’r cyfartaledd. Mai oedd y mis gwlypaf gyda 179% o’r cyfartaledd hirdymor ar gyfer Mai. Ionawr oedd y mis sychaf gyda dim ond 17.9% o’r cyfartaledd hirdymor, gyda Gorffennaf yn ail gyda dim ond 23.4%

Roedd y cyfanswm o ddŵr a gyflenwyd yn ystod y flwyddyn yn is na’r cyfartaledd blynyddol o ddŵr a gyflenwyd ers yr uno rhwng Dŵr Wrecsam a Gwaith Dŵr Caer ym 1997. Y prif resymau am hyn oedd bod defnydd yn isel oherwydd bod y tywydd yn ffafriol a bod yna fwy o gwsmeriaid wedi dewis cael mesurydd. Esgorodd y tywydd poeth iawn ym mis Gorffennaf ar y cyflenwad dyddiol uchaf o ddŵr ers yr uno.

Nid oes gan y Cwmni raglen wedi’i hariannu ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar gyfer cyfnod Cynllun Rheoli Asedau 4 (CRhA4). Parhaodd y Cwmni i ddatblygu ei Strategaeth Cyflenwi a Chynnal a Chadw. Yn ymarferol, mae hyn yn seiliedig ar sgwrio’r prif bibellau cyflenwi ag aer.

Prif strategaeth cynnal a chadw cyfalaf y Cwmni ar gyfer y system gyflenwi yn CRhA4 yw adnewyddu’r prif bibellau cyflenwi i sicrhau cyflenwi’n effeithiol, wedi’i fesur yn ôl nifer y toriadau yn y pibellau hynny, ataliadau i’r cyflenwad a digwyddiadau afliwio dŵr. Er y gwneir llai o waith adnewyddu’r prif bibellau cyflenwi nag yn CrhA3, gellir targedu’r gwaith yn well at bibellau sydd mewn perygl o dorri nag a oedd yn bosibl yn ystod y rhaglen Adran 19.

Mae gwaith trin dŵr newydd Pendinas, a ddisodlodd hen weithfeydd Pendinas a Nant y Ffridd, wedi parhau i weithredu’n foddhaol ers ei agor yn 2004. Cyflawnodd y nod o wella trin manganîs yn unol ag ymrwymiadau Adran 19.

Mae monitro a gwella trin hydoddiant plwm mewn tri o weithfeydd yn parhau yn unol â Datganiad Bwriad. Mae’r Cwmni o’r farn ei fod yn agos at gyrraedd y graddfeydd dos gorau posibl.

Prosiect mwyaf y Cwmni o dan CRhA4 yw adnewyddu’n sylweddol gwaith trin dŵr Brychdyn, sy’n cyflenwi Caer. Mae’r un prosiect hwn yn cyfrif am tua 50% o holl raglen fuddsoddi’r Cwmni ar gyfer cynnal a chadw cyfalaf o dan CRhA4. O ganlyniad i gynllunio ymlaen llaw, roedd y Cwmni’n gallu rhoi’r contract ar waith yn gynnar yng nghyfnod CrhA4. Llofnodwyd y contract ar gyfer y gwaith gyda chonsortiwm Purac a Morrison Construction ym mis Mai 2005 pan gychwynnodd y cam dylunio ac astudiaeth dichonoldeb. Cychwynnodd y cam adeiladu ym mis Chwefror 2006. Disgwylir cwblhau’r contract ym mis Ionawr 2008.

Yn gryno, mae’r gwaith yn cynnwys:-

  • adnewyddu’r system Arnofiant mewn Aer Toddedig presennol
  • adnewyddu pympiau trosglwyddo y gronfa dŵr crai
  • gosod adeilad hidlo dau gam newydd yn cynnwys cael gwared â manganîs i ddisodli’r holl brosesau hidlo presennol
  • system dosio clorineiddio a thanc cyswllt newydd
  • system newydd i adfer dŵr golchi
  • system dosio amonia newydd
  • gorsaf bwmpio newydd ar gyfer dŵr wedi’i drin gyda thri phwmp newydd i ddisodli’r pympiau presennol
  • adnewyddu’r ddau bwmp dŵr wedi’i drin presennol
  • adnewyddu’r cyflenwad trydan
  • dargyfeirio cysylltiedig ar bibellau a gwasanaethau ar draws y safle.