|
|
||||||||||||||||||
|
Gwasgedd a Llif Mae’r Cwmni’n rhwymedig i ddarparu dŵr ar bwysedd fydd yn sicrhau bydd dŵr yn cwrdd â’r llawr uchaf ym mhob adeilad, oni bai fod yr adeilad ar fath uchder fel bod dŵr ddim yn llifo iddi trwy ddisgyrchedd o gronfa neu danc. Nid yw hyn yn darged isafswm gwasanaeth. Mae hyn yn ddarostyngedig i’w hawl i leihau pwysedd neu ymyrru’r cyflenwad am bigynnau lleol eithafol mewn galw neu pan mae cyfnodau maith o alw uchel yn cael eu profi. Os yw gwasgedd dŵr yn cwympo o dan ben statig o 7 metr am awr am fwy ar 2 achlysur ar wahân mewn cyfnod o 28 dydd, yna mae cwsmeriaid a’r hawl i hawlio cofnodion cydadferol. Bydd hawliau’n cael eu gwireddu gan gyfeiriad i recordiau monitorio pwysedd parhaol a trwy brofion ymgymerwyd gan ein tîm archwilio. Sicrhewch fod y cwmni’n ymwybodol eich bod chi’n profi problemau os gwelwch yn dda. Ar hyn o bryd, rydym yn gallu bodloni’r isafswm bwysedd, fodd bynnag, efallai ni fydd hyn yn cael eu cyflawni yn ystod gwaith cynhaliaeth hanfodol, ond fydd sylw’n cael ei rhoi i gwsmeriaid domestig pe bai hyn yn gymwys. Mewn bron pob achos fydd hyn yn meddwl bydd: (a) dŵr yn codi ac yn llenwi’r tanc storio dŵr oer ar lefel to ail lawr. (b) y llif lleiaf yn y tap dŵr oer mewn cegin llawr gyntaf fydd 9 litr y funud – mae hyn yn gyfatebol a llenwi bwced un galwyn mewn 30 eiliad. Gall cyfraddau gwasgedd a llif yn eich cartref cael eu heffeithio gan nifer o ffactorau: -
Mewn sefyllfaoedd argyfwng neu ddigwyddiadau anochel a achoswyd gan drydydd parti efallai bydd gwasgedd cysondeb cyflenwad yn cael eu haflonyddu heb sylw. Mewn achosion o’r fath bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddychwelyd y cyflenwadau i normal cyn gynted ag sy’n bosib, a fydd pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i hysbysu cwsmeriaid o weithrediad adferol a chymerwyd. Mae hi wastad yn bosib darganfod gwybodaeth o’n Ystafell Rheoli sydd â chriw 24 awr y dydd (Ffôn.01978 846946) Os oes yna unrhyw broblemau anrhagweledig gyda’ch cyflenwad dŵr, byddwch chi’n derbyn cyngor ar ba weithrediad dylech chi gymryd. Bydd y Wasg leol, radio a theledu, yn ogystal â phamffledi a systemau cyfeirio cyhoeddus ar ein faniau’n cael eu defnyddio yn angenrheidiol i’ch cadw chi’n hysbys. Os yw eich system cyflenwi leol yn methu mae’n rhaid i ni atgyweirio eich cyflenwad cyn gynted ag sy’n bosib. Ein targed yw gwneud hyn mewn brys rhesymol; ond mae’r prif bibellau fwy yw’r pibellau fwyaf anodd ei drwsio ac mae’n gallu cymryd mwy. Os yw’r ymyriad yn para mwy na 24 awr mae’n rhaid i ni eich darparu chi gyda chyflenwad argyfwng - fel arfer o bibellau sefyll neu 'bowsers'. Byddwch chi fel arfer yn derbyn 48awr o hysbysiad ysgrifenedig o ymyriad mawr, fodd bynnag, lle mae’r ymyriad yn debygol o fod yn llai nag awr o hyd, efallai fyddwch chi’n derbyn llai na 24 awr o hysbysiad ysgrifenedig. Os yw ymyriadau yn llai na 30 munud yn arfaethedig ac felly mae’r ymyriad yna’n fain ni fyddwn yn hysbysu chi cyn trwsio. Bydd hyn gan amlaf yn digwydd rhwng canol nos a chwech o’r gloch yn y bore pan mae’r Cwmni’n profi adrannau o’r prif bibellau am ollyngiadau. Os mae hyn yn debygol o achosi problem sbesiffig cysylltwch â’r Ystafell Rheoli os gwelwch yn dda. |
||||||||||||||||||