|
|
||||||||||||||||||
|
Ansawdd Dwr Cyffredinol Cyflawnodd y Cwmni gyfanswm o 14,365 o brofion Cenedlaethol a Chyfarwyddeb yn ystod 2006. O’r rhain, roedd 99.98% yn bodloni’r safon ansawdd dŵr berthnasol, ond dangosodd tri phrawf fod Safon Gyffredin Paramedr wedi’i thramgwyddo. Achosodd pibell gyflenwi alfanedig oedd yn eiddo preifat lefel rhy uchel o haearn yn ardal Rhos. Darganfuwyd bacteria colifform mewn dau sampl ardal; cadarnhawyd y rhain fel cyfansymiau o facteria colifform ac roedd yr holl samplau pellach a gymerwyd yn foddhaol yn dilyn y lefelau gormodol yn ardal uchel Brymbo. Arweiniodd lefel rhy uchel yn ardal Wrecsam at samplu pellach, pan ddangosodd un sampl fod y cyfanswm o facteria colifform yn rhy uchel. Cymerwyd samplau pellach eto a chanfuwyd mai tap y defnyddiwr oedd yn achosi’r lefel rhy uchel. Canfuwyd dau o facteria E.coli yng nghronfa wasanaeth Penybryn (mae hyn yn cyfrif fel methiant cyfanswm o facteria colifform a chyfanswm E.coli). Ymatebodd y Cwmni i hynny drwy gau cronfa Penybryn, ei harchwilio a’i glanhau. Roedd yr holl samplau a gymerwyd ar ôl hynny’n foddhaol. Ni chanfuwyd unrhyw facteria colifform yn unrhyw un o weithfeydd trin dŵr y Cwmni. Caiff tri o weithfeydd trin dŵr eu monitro’n barhaus am facteria Cryptosporidiwm yn unol â Rheoliad 29. Y safon a osodwyd ar gyfer trin yw un oocyst ym mhob deg litr o ddŵr. Cymerwyd 1,103 o samplau yn ystod 2006 a dim ond pum sampl oedd yn cynnwys unrhyw oocystau o gwbl. Ym mhob achos, dim ond un oocyst oedd yna mewn dros 1000 litr o ddŵr ac ni ddaeth unrhyw sampl yn agos at dramgwyddo’r Safon Gyffredin Paramedr o un oocyst ym mhob deg litr o ddŵr. |
||||||||||||||||||