|
|
|||||||||||||||||||||||||||
|
Plwm A yw plwm yn Niweidiol? Mae plwm yn elfen hollbresennol yn tarddu o amryw eang o ffynonellau megis mygdarthau disbyddwyr o gerbydau, gwaith paint olew a sodr plwm. Ffynhonnell o blwm mewn dŵr yfed Mae’r ffynhonnell gynradd o blwm mewn dŵr yfed yn dod o bibellau plwm, pan mae dŵr yn gadael y gweithdy triniaeth ni fydd yn cynnwys unrhyw blwm. Rheolaeth ‘Plumbosolvency’ Mae gan Dŵr Dyffryn Dyfrdwy gynllun rheoli o waith i leihau crynodiadau plwm o fewn eu rhanbarth cyflenwi. Roedd ymchwiliad dechreuol wedi eu hymgymryd gan ddefnyddio’r meini prawf Arolygiaeth Dŵr Yfed yn arholi canlyniadau plwm o ranbarthau cyflenwi gwahaniaethol. Defnyddiwyd y wybodaeth yma i bennu pa weithdy triniaeth fydd yn gynnwys yn y cynllun ‘plumbosolvency’.
Cliciwch i leoli eich rhanbarth cyflenwi - Nid yw’r cyfleuster yma ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i gyrchu’r fersiwn Saesneg. Sut mae rheolaeth ‘Plumbosolvency’ yn gweithio? Mae rheolaeth ‘Plumbosolvency’ yn cael eu cyflawni i’r rhanbarthau a rhestrwyd uchod trwy’r ychwanegiad o ffosffad i’r dŵr a chyflenwyd iddyn nhw. Gwnaeth Dyffryn Dyfrdwy dechrau dosio ortho-ffosffad yn 2002. Mae’r ortho-ffosffad yn cael ei amsugno’n hawdd i’r pibellau mae’n teithio ar hyd trwy ffurfio ffilm amddiffynnol tu fewn i’r bibell. Mae’r ffilm yn cyfyngu’r llif o ionau ar hyd yr arwynebedd ac yn ffurfio gwahanfur rhwng y dŵr a’r plwm, ac felly yn cyfyngu ar y plwm sy’n hydoddi i mewn i’r dŵr yfed. Sut mae adnabod os oes gen i bibellau plwm? Os oedd eich tŷ chi wedi ei adeiladu cyn 1970 mae yna bosibiliad ei fod e’n cynnwys pibellau plwm. Os oedd eich tŷ wedi ei adeiladu ar ôl 1970 neu a phibwaith wedi ei moderneiddio ers hynny mae’n annhebygol o gael pibellau plwm. Sut allai lleihau’r faint o blwm dwi’n yfed? Os oes gennych chi bibellau plwm yna’r ffordd hawddaf i leihau’r maint o blwm rydych chi’n yfed yw i wastad rhedeg y tap cyn tynnu dŵr ohono. Mae hyn yn wir yn benodol os yw’r dŵr wedi bod yn sefyll yn y bibell am unrhyw hyd o amser, megis dros nos. Trwy fflysio’r cyflenwad fel hyn, rydych chi’n gwaredu’r dŵr sydd wedi treulio amser mewn cyswllt a’r plwm. Am wybodaeth bellach ar ansawdd dŵr cliciwch ar y cyswllt isod i ymweld â thudalen gwe'r Arolygiaeth Dŵr Yfed. |
|||||||||||||||||||||||||||