Dee Valley Water Background Hafan Cwsmeriaid eich cyflenwad dŴr Gwasanaethau Arlein Cymuned Gwasanaethau arall  
Gwasanaethau Eraill Ansawdd Dŵr - Caledwch
Section underline
Dee Valley Water Background
Section Underline
* Cliciwch eitem o'r ddewislen i'w ehangu

 
Section Underline

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc

Swyddfa Gofrestredig:
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam LL14 4EH

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3527628


Caledwch Dwr

Mae dwr yfed yng Nghymru a Lloegr o ansawdd uchel iawn ond mae rhai pobl yn pryderu am p'un ai os mae ganddyn nhw dwr caled a'u beidio. Mae'r wybodaeth yma'n ateb y cwestiynau a ofynnwyd fwyaf am ddwr caled.

Beth sy'n achosi dwr caled?

Mae dwr sy'n galed yn cynnwys cyfansoddion calsiwm a magnesiwm

Mae dwr glaw yn naturiol yn feddal, nid yw'n cynnwys mwynau, ond wrth iddi suddo trwy'r ddaear mae'n gallu pigo mwynau i fyny, megis cyfansoddion calsiwm a magnesiwm, o'r pridd a'r cerrig mae'n mynd trwyddo. Os yw dwr glaw yn symud trwy gerrig medal megis sialc neu galchfaen, mae'n pigo'r mwynau yma i fyny. Os mae'n teithio trwy wenithfaen neu bridd mawnaidd, nid yw'n pigo'r mwynau yma i fyny ac yn aros yn feddal.

Beth yw'r problemau gyda dwr caled?

Mae dwr caled yn achosi pibellau i gennu i'w chasglu mewn tegellau a haearnau smwddio trydanol a pheiriannau golchi. Os yw cen yn casglu ar elfennau gwresogi mae'n byrhau ei fywydau ac yn gwneud teclynnau'n llai effeithlon. Mae hi hefyd yn anoddach i weithio trochion o sebon, hylif golchi a phowdwr golchi. Mae hi hefyd yn gallu achosi marciau 'llanw' ar fasnau, sinciau, bathon a thoiledau.

Sut allai ddarganfod os oes gen i ddwr caled?

Mae'r map trosodd yn dangos ardaloedd dwr caled a medal yn gyffredinol. Mae'r map ond yn arwydd oherwydd gall ardaloedd dwr caled cynnwys pocedi o ddwr medal ac i'r gwrthwyneb hefyd. Gallwch chi dderbyn gwybodaeth fanwl wrth eich cwmni dwr. Mae rhifau ymholi wedi eu rhestri o dan DWR (WATER) yn eich llyfr ffôn.

Oes yna safon am galedwch dwr yfed?

Nid oes yna werth macsimwm am galedwch cyfan o gyflenwadau dwr. Mae yna werthoedd macsimwm am ddau sylwedd, calsiwm a magnesiwm, sydd yn achosi dwr caled. Yng Nghymru a Lloegr mae'r holl gyflenwadau dwr yn cwrdd â'r gwerth o galsiwm ac mae chwe chyflenwad yn rhagori'n ymylol y gwerth o fagnesiwm, ond oherwydd nad oes risg i iechyd, ymlaciad o'r gwerth magnesiwm wedi eu caniatáu gan yr arolygiaeth i'r cyflenwadau yma. Lle mae cwmnïoedd dwr yn meddalu dwr cyn ei rhoi hi i mewn i'r cyflenwad, mae yna werth lleiafswm am galedwch cyfan gwbl sydd raid i bob cyflenwad meddalu cwrdd â.

A ddylen i ddefnyddio meddalydd dwr?

Mae hyn yn fater o ddewis personol. Bydd meddalydd yn gwella effeithlonrwydd a chynyddu bywyd teclynnau trwy ddefnyddio dwr poeth. Bydd hyn yn gwneud trochi sebon yn haws ac yn lleihau'r marciau llanw ar grochenwaith iechydol. Mae gan rhai pobl cyflyrau croen, megis ecsema, ac os maen nhw'n defnyddio dwr meddal fydd hi'n achosi llai o broblemau os maen nhw'n defnyddio dwr meddal i olchi. Ond os ydych chi'n gosod meddalydd dwr mi ddylech chi sicrhau fod gennych chi gyflenwad dwr sydd ddim yn feddal ar gyfer yfed a choginio.

Mae hyn oherwydd:

- Mae yna dystiolaeth o glefyd y galon lai mewn ardaloedd dwr caled na mewn ardaloedd dwr meddal, er nad oedd pob astudiaeth wedi darganfod y cysylltiad yma. Os oes rhywbeth mewn dwr caled yn amddiffyn yn erbyn clefyd y galon, efallai bydd meddalydd dwr yn diddymu'r amddiffyniad yn ogystal â'r caledwch.
- Mae llawer o feddalyddion dwr yn gweithio trwy amnewid y calededd gyda sodiwm. Gall gormod o sodiwm fod yn broblem i fabis cynamserol oherwydd nid yw eu harennau'n dda am hidlo'r sodiwm allan o'i gwaed, ac am bobl sydd yn isel ar sodiwm (diet halen isel).
- Gall dwr meddal ryddhau plwm o unrhyw bibellau plwm i lawr y llif meddalydd.

Os ydych chi'n penderfynu cael meddalydd dwr rydym yn cynghori eich bod chi'n ei brynu o gyflenwr cyfrifol, er enghraifft, un sydd yn aelod o 'Dwr Prydeinig' (Gwasanaeth Gwybodaeth 'British Water' 01818788618), a chael y meddalydd wedi ei osod gan blymwr sy'n aelod o Gymdeithas Masnachu adnabyddus, megis yr Athrofa Plymio. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn cadw mewn cytundeb a chyfarwyddiadau'r cyflenwr.

Teclynnau Cyflyru Trydanol a Magnetig

Mae rhai o'r teclynnau yma wedi ei ddangos fel bod yn effeithiol i leihau swm o gennau sydd mewn gwirionedd yn glynu wrth bibellau neu elfennau wresogi. Nid yw hi'n meddalu'r dwr. Fodd bynnag, nid yw'r holl nwyddau sydd ar y farchnad yn rhoi perfformiad boddhaol. Nid ydyn yn cynghori i chi i brynu un o'r teclynnau yma oni bai bod y cyflenwr yn cytuno i werthiant neu ddychweliad, yn amodol ar berfformiad boddhaol.

Cliciwch i leoli eich rhanbarth cyflenwi

Caledwch Dwr ar Gyfartaledd 2004-2006
Rhanbarth Cyflenwi
mg/l Ca
mg/l CaCO3
mMol Ca neu mMol CaCO3
Graddau Saesneg Car
Graddau Ffrengig Car
Graddau Almaeneg Car
 
Brymbo Uwch 24.28 60.71 0.61 4.2 6.1 3.4 Meddal
Brymbo Is 28.73 71.82 0.72 5.0 7.2 4.0 Meddal
Cefn 48.20 120.50 1.21 8.4 12.1 6.7 Canolig
Dinas 37.38 93.44 0.93 6.5 9.3 5.2 Meddal
Glyndwr De 28.20 70.50 0.71 4.9 7.1 3.9 Meddal
Legacy 26.75 66.87 0.67 4.7 6.7 3.7 Meddal
Llangollen 54.44 136.11 1.36 9.5 13.6 7.6 Canolig
Disgyrchiant Llwyn Onn 35.84 89.60 0.90 6.3 9.0 5.0 Meddal
Maelor 27.13 67.82 0.68 4.7 6.8 3.8 Meddal
Newton 35.95 89.88 0.90 6.3 9.0 5.0 Meddal
Hen Warren 24.28 60.71 0.61 4.2 6.1 3.4 Meddal
Overton 27.52 68.80 0.69 4.8 6.9 3.9 Meddal
Pipers Ash 35.58 88.94 0.89 6.2 8.9 5.0 Meddal
Plemstall 105.36 263.39 2.63 18.4 26.3 14.7 Caled
Rhos 25.97 64.93 0.65 4.5 6.5 3.6 Meddal
Saltney 38.64 96.60 0.97 6.8 9.7 5.4 Meddal
Southsea 27.57 68.93 0.69 4.8 6.9 3.9 Meddal
Wrexham 27.25 68.12 0.68 4.8 6.8 3.8 Meddal

 

OST 30/01/06