|
|
|||||||||||||||||||||||||||
|
Terfynau Pris Mae’r terfyniadau pris a osodwyd yn 2004 gan Ofwat yn golygu bod ein tâl yn newid fel isod, flwyddyn ar flwyddyn, cyn i’r chwyddiant cael eu hychwanegu:
Dyma’r newidiadau cyfartalog mewn prisiau sy’n effeithiol ar y 1af o Ebrill bob blwyddyn a bydd yn effeithio ar dariffau a grwpiau cwsmeriaid trwy gyfansymiau gwahanol dros bob cyfnod. Mae’r prisiau yn seiliedig ar gynllun busnes pum mlynedd gynhwysfawr wedi ei baratoi gan y Dŵr Dyffryn Dyfrdwy fel rhan o’r broses adolygu gyfnodol. Mae’r cynllun Monitro yma yn grynodeb byr o’r cynllun busnes llawn. Mae e’n disgrifio sut mae’r strategaeth i 2005-10 wedi esblygu, pa waith fydd yn cael ei gynnal a beth fydd hyn yn golygu i’r cwsmeriaid yn nhermau gwasanaethau a phrisiau. Yn yr ardal lle’n cyflenwi, mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy dim ond yn gosod prisiau ar gyfer dŵr; mae gwahanol derfynau pris yn cael eu gosod ar gyfer gwasanaethau carthffosiaeth a darparwyd gan Dŵr Cymru neu United Utilities. Mae eich sylw yn cael ei dynnu at y newid mewn deddfwriaeth sy’n effeithio ar Dŵr Dyffryn Dyfrdwy. Yng Ngorffennaf 1999, datblygodd y llywodraeth bwerau i osod rheoliad yn ymdrin gyda gweithgareddau Dŵr Dyffryn Dyfrdwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn gynwysedig yn y rheolau yma yw tariff grwpiau bregus ar gyfer cwsmeriaid sy’n cymryd cyflenwad mesurol. Mae’r rheolau newydd yn golygu fod 'Ofwat' yn gorfod cymryd cyfrif o unrhyw ddeddfwriaeth a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ychwanegiad i unrhyw ddeddfwriaeth a basiwyd yn y senedd. Nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio unrhyw reolau sy’n effeithio ein Cynllun Prisio. |
|||||||||||||||||||||||||||