|
|
||||||||||||||||||
|
Dwr Yfed - Clorin, Arogl, Blas
Mae rhai pobl yn sensitif iawn i arogl a blas. Os rydych chi yn un o'r rhain, efallai bydd y daflen yma o werth i chi. Mae hi'n esbonio efallai pam eich bod yn sylwi ar arogl neu blas yn eich dwr yfed a beth allwch wneud os rydych yn arbennig o sensitif iddynt. Beth os mae fy nwr i yn arogli neu yn blasu? Fe hoffwn roi eich meddwl i orffwys. Mae dwr yfed yng Nghymru a Lloegr o safon uchel iawn ond fe allwch sylwi weithiau ar ychydig o flas neu arogl, yn arbenigol o glorin, Os ydych chi, nid oed rheswm i chi boeni. Ond os ydych yn sylwi ar arogl neu flas arbennig o gryf sy'n meddwl eich bod yn methu yfed y dwr, neu os ydych yn sylwi ar arogl neu blas am y tro cyntaf, fe ddylech gysylltu â'r Cwmni yn syth. Pam fod dwr yn arogli neu'n blasu? Gall unrhyw un o'r canlynol achosi i bobl sylwi ar arogl neu flas neu newidiad mewn arogl neu blas eu dwr yfed:
Beth yw clorin? Mae'n rhaid i glorin cael eu defnyddio yn ofalus, ond mae e'n ddiniwed wrth gael eu defnyddio mewn swm bach iawn fel diheintydd i drin dwr yfed. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio yn gyffredinol gan wahanol frandiau o ddiheintyddion ar gyfer poteli bwydo ac offer babis. Mae e hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn crynodiadau uchelach i ddiheintio dwr mewn pyllau nofio. Pam defnyddio Clorin? Mae hi’n hollol hanfodol bod dŵr yfed yn ddiogel i yfed a ddim yn cynnwys bacteria niweidiol sy’n medru achosi afiechydon. Mae clorin yn ddiheintydd effeithiol iawn. Mae wedi bod yn cael ei ddefnyddio am 100 mlynedd. Mae’r ychwanegiad o glorin mewn meintiau bach mewn gwaith trin dŵr yn rhoi’r effaith diheintio mwyaf cyn i’r dŵr gyrraedd eich tap. Pam fy mod i'n medru blasu neu arogli clorin yn fy nwr? Er mwyn bod yn hollol siwr bod y diheintio yn cael ei gynnal drwy'r prif bibellau dwr, mae tameidiau bach o glorin yn cael eu gadael yn y dwr a chyflenwyd i'ch tap. Gall hyn ddilyn mewn ychydig o arogl clorin pan fyddwch yn troi'r tap ar neu ychydig o flas clorin yn y dwr. Ffordd dda, ddiogel i ddod dros yr arogl neu'r blas yw rhoi jwg o ddwr wedi gorchuddio yn yr oergell cyn yfed - mae dwr oer bob tro yn blasu yn well, ond taflwch unrhyw ddwr heb ei yfed ar ôl 24 awr. Ydy'r swm isel o waddod clorin yma yn niweidiol? Na. Mae'r swm isel o glorin yn eich dwr yn atal bacteria niweidiol i dyfu yn y prif bibellau dwr neu eich pibellau. Gallwch taweli'ch meddwl fod y swm arferol o glorin yn y dwr ar ôl gadael y gweithfeydd trin yn ddiogel ac o fewn canllawiau Mudiad Iechyd Y Byd. Beth am newidiadau tymhorol? Mae llawer o'n dwr yfed yn cael ei feddiannu gan drin dwr sy'n cael eu cymryd o afonydd neu gronfeydd dwr. Yn yr haf, mae'r dwr yma ambell waith yn cynnwys arogl neu flas llwyd neu ddaearol cyn iddynt gael eu trin. Mae'r driniaeth yn cael gwared a'r rhan fwyaf o'r arogl a'r blas ond gall fod ychydig o arogl neu flas llwyd neu ddaearol ar ôl yn y dwr Ydy'r arogl neu'r blas yma yn niweidiol? Na. Mae'r ychydig arogl neu flas yn ddiniwed. Beth os mae fy nghyflenwad dwr yn newid neu fy mod i'n symud ty? Mae cynnwys dwr yn gymhleth ac yn amrywio o ardal i ardal, yn aml oherwydd y gwahanol greigiau a phridd mae'r dwr yn trafaelu trwy. Mae dwr wedi eu trin o wahanol ardaloedd â gwahanol flas. Mae dwr caled o ardal efo sialc yn mynd i gael blas hollol wahanol i ddwr meddal o gronfa ddwr yn y mynyddoedd. Mae'r cwmni yn gallu trin dwr o wahanol darddiadau. Os bydd angen i'r Cwmni newid cyflenwad, er enghraifft oherwydd cynnydd mewn defnydd o ddwr yn yr haf, fe allwch sylwi ar newidiad yn y blas. Yn yr un modd, os ydych yn dewis i symud i ardal arall, fe allwch sylwi bod y dwr yn blasu yn wahanol. Sut gall fy mhlymio achosi problemau? Gall dwr hydoddi tameidiau bach o sylweddau o'ch plymio a all achosi blas rhyfedd. Er enghraifft:
Dim ond defnyddiau sy'n addas ar gyfer eu defnyddio gyda dwr yfed a dylai cael eu defnyddio a dylai'ch tanc yn y llofft cael ei gadw yn lan ac wedi ei orchuddio. Gall y Cwmni neu blymiwr proffesiynol gynnig cyngor. Ni ddylai dwr o'r meddalyddion dwr cael eu hyfed neu eu defnyddio i gymysgu bwydydd babi oherwydd ei fod yn cynnwys gormod o halen. Dylech bob tro gael tap gyda dwr heb ei feddalu ar gyfer yfed a choginio. Gall meddalyddion dwr wedi eu gosod yn anghywir achosi blas hallt a gadael dwr wedi eu llygru i mewn i'r pibellau dwr yfed. Sut gallaf ddarganfod os taw fy mhlymio sydd a'r bai? Gall y Cwmni eich helpu i ddarganfod os oes rhywbeth yn bod gyda phlymio eich cartref. Yn yr ail, gallwch gael cyngor wrth blymiwr proffesiynol. Beth gallaf wneud os rydw i yn sensitif i flas neu arogl? Nid ydym yn credu ei fod yn angenrheidiol i ddefnyddio hidl dwr. Oeri dwr tap yn yr oergell yw'r cyfan sydd angen. Ond, os ydych yn teimlo y byddai'r hidl yn gwneud i'ch dwr flasu yn well, fe allwch geisio defnyddio naill ai hidl dwr sy'n rhaid cael eu plymio i mewn neu eu gosod ar eich tap neu hidl ar ffurf jwg sy'n cael eu cadw yn yr oergell. Os rydych yn penderfynu defnyddio hidlyddion, mae'n rhaid i chi ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr yn ofalus. Os ydych yn defnyddio hidl ffurf jwg, ni ddylech adael i'r dwr sefyll yn y jwg yn fwy na 24 awr oherwydd gallai hyn ddilyn i greu bacteria. Dylech bob tro daflu i ffwrdd unrhyw ddwr heb ei ddefnyddio ar ôl 24 awr ac ail lenwi'r jwg. Hefyd, mae'n rhaid i'r jwg a'r ffilter cael eu cadw yn lan i fod yn effeithiol a chadw'r jwg wedi gorchuddio yn yr oergell. Dylech newid y ffilter sy'n cael ei osod ar eich tap neu yn cael ei blymio i mewn yn gyson yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, neu gallai bacteria niweidiol ddatblygu. Cofiwch Defnyddiwch dwr wedi ei dynnu yn ffres bob tro ar gyfer yfed neu goginio wrth ei fynd ag ef o'r tap oer yn syth wrth y brif bibell ddwr. Bron bob tro hwn yw'r tap dwr oer yn y gegin. Pan fod dwr heb eu defnyddio yn y cartref am sawl awr, tynnwch i ffwrdd llond bowlen cyn cymryd dwr i yfed. Bydd hyn yn sicrhau eich bod ddim yn yfed dwr a all wedi bod yn sefyll yn y pibau am amser hir. Nid oes angen gwastraffu'r dwr yma, gallwch ei ddefnyddio at bethau arall fel dyfrhau'r blodau. Peidiwch ddefnyddio dwr o'r system dwr twym neu dapiau eich ystafell ymolchi i yfed neu i goginio oherwydd maen nhw gan amlaf yn dod o'r tanc storio yn y llofft ac nid yw hi mor ffres na mor ddiogel i ddefnyddio'r dwr yn syth o'r prif bibellau. Os rydych yn sylwi ar arogl neu blas arbennig o wael neu gryf sy'n golygu eich bod methu yfed y dwr, neu os ydych yn sylwi ar yr arogl neu'r blas am y tro cyntaf, dylech gysylltu gyda'r cwmni dwr yn syth. Mae dwr yfed yng Nghymru a Lloegr yn safon uchel iawn ond ambell waith mae pethau yn mynd o'i le. Ambell waith gall hyn arwain at bobl yn cael dwr yfed sy'n af liwiedig. Mae'r wybodaeth yn ateb y cwestiynau sy'n cael eu gofyn fwyaf aml ynghylch dwr af liwiedig. Beth sy'n achosi dwr af liwiedig? Mae yna sawl achos posib, ond y rheswm mwyaf cyffredin yw'r aflonyddi o unrhyw waddodion sy'n bresennol yn y prif bibellau dwr. Gall hyn ddigwydd pan fod yna newid yn y cyfeiriad neu gyflymder llif y dwr. Gall newidiadau yn llif y dwr ddigwydd am nifer o resymau, er enghraifft, rhwyg ar y prif bibellau dwr, agor neu'r cau o falfiau, dod a prif bibell dwr yn ôl i weithio ar ôl trwsio, cwmni dwr yn gorfod symud dwr o un ardal i'r llall i ymdopi gyda'r newidiadau mewn galw a defnydd y dwr ar gyfer ymladd tân. Weithiau, gall hyn cael ei achosi gan y cyflwr o'ch pibell gwasanaeth sy'n cysylltu eich ty gyda'r prif bibellau dwr neu'r cyflwr o'ch plymio mewnol o fewn eich ty. Gall y problemau yma troi'r dwr yn oren, brown neu lwyd. Gall hefyd fod yn wyn fel canlyniad i waddodion sialc neu aer gormodol. Mae dwr sy'n wyn sydd wedi ei achosi gan aer gormodol yn clirio o'r gwaelod i fynnu wrth sefyll dwr wedi ei arllwys yn ffres i mewn i wydr ac nid yw'n rhywbeth i ofidio amdano. Pam fod yna waddodion yn y prif bibellau? Os ydy'r dwr yn af liwiedig, ni ddylech gymryd fod y dwr yn ddiogel i'w yfed tan i chi ofyn am gyngor wrth y cwmni dwr. Os yw'r af liwder oherwydd gwaddodion yn y prif bibellau, mae'r rhain mwy na thebyg yn haearn a manganîs ac nid yn debygol o fod yn niweidiol i'ch iechyd. Ond, efallai ni fyddwch eisiau yfed y dwr na'i rhoi i'ch teulu oherwydd ei fod yn edrych ac yn blasu yn annymunol. A oes rhywbeth yn cael ei wneud am hyn? Mae'r cwmni yn cynnal eu systemau dosbarthu i leihau'r swm o waddodion yn y prif bibellau gan gynnal fflysio neu ddulliau arall. Mae'r cwmni hefyd yn gweithredu ei systemau i atal y gwaddodion rhag cael eu codi gan y llif dwr. Mae cwmnïoedd dwr yn delio gyda chyrydiad haearn trwy leinin neu ailosod y prif bibellau sydd wedi effeithio. Maen nhw'n taclo'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gwaethaf yn gyntaf. Mae ychydig o gwmnïoedd dwr yn barod wedi cwblhau'r rhaglenni yma ond mi fydd y lleill yn cymryd hyd at y flwyddyn 2010 i'w cwblhau. Mae tua 315,000 kilometr o brif bibellau dwr yng Nghymru a Lloegr, ond, er hyn , ni fydd angen gwaith ar bob un ohonynt. Beth ddylwn wneud os rydw i yn cael dwr af liwiedig? Os ydych chi a'ch cymdogion yn derbyn dwr yfed af liwiedig yna, cysylltwch gyda'ch cwmni dwr yn syth. Os ydych yn ystyried bod y Cwmni ddim yn rhoi esboniad boddhaol i chi neu yn gwneud dim, dylech gysylltu â'ch Cyngor Defnyddwyr i Dwr lleol. Os yw'r broblem gyda chi a dim gyda'ch cymdogion, gall y broblem fod yn eich pibau dwr chi yn eich cartref. Efallai bydd y Cwmni yn medru rhoi cyngor i chi neu gallech gysylltu gyda phlymiwr cymwys, megis un sydd wedi cofrestru gyda Sefydliad Plymio. Dylech gysylltu gyda'r Cwmni os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef colledion neu niwed fel canlyniad o gael eich cyflenwi gyda dwr yfed af liwiedig. Os nad ydych yn hapus gydag ateb y Cwmni dylech gysylltu gyda'r Cyngor Defnyddwyr i Dwr lleol. Ble gallaf gael mwy o wybodaeth am safon dwr yfed? Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am safon dwr yfed gallwch ei gael wrth:
Gallwch weld y cofnod yn swyddfa'r cwmni yn Packsaddle. Bydd staff Safon Dwr yn esbonio canlyniadau'r profion i chi ac yn dweud wrthych beth sy'n cael eu gwneud i gywiro'r methiannau. Mae gennych chi'r hawl i gael copi am ddim o'r record i'r ardal lle rydych yn byw. Ar yn ail, gallwch ysgrifennu at y cwmni am wybodaeth.
Mae'n rhaid i'r cwmnïoedd dwr rhoi gwybodaeth i'r awdurdodau lleol am safon y cyflenwad dwr yn eu hardaloedd.
Mae'r rhain yn adroddiadau maith sy'n gynnwys llawer o wybodaeth fanwl am safon y dwr yfed yng Nghymru a Lloegr. Gall yr adroddiadau cael eu prynu o'r Swyddfa Deunydd Ysgrifennu. Efallai gallwch weld copi yn y brif lyfrgell neu yn swyddfa'r Cwmni. - Beth rydym yn gwneud
|
||||||||||||||||||