Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed ('ADY')
Roedd yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (yr ‘ADY’) wedi ei sefydlu yn 1990 ar ôl i’r diwydiant dŵr gael eu preifateiddio, i sefyll fel corff annibynnol i fonitro a gwirio’r diogelwch o dŵr yfed.
Prif dasg yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yw gwirio bod y cwmnïoedd dŵr yng Nghymru a Lloegr yn darparu dŵr sy’n ddiogel i yfed ac yn cwrdd gyda’r safonau sy’n cael eu gosod yn y Rheoliadau Ansawdd Dŵr. Mae archwilwyr ‘ADY’ yn cynnal archwiliadau technegol o bob cwmni dŵr.
Mae ansawdd dwr yn cael eu hasesu ar sail y wybodaeth sy’n cael eu darparu gan gwmnïoedd dŵr. Mae miliynau o brofion yn cael eu cynnal bob blwyddyn i weld os yw’r dŵr yn cyrraedd y safon sy’n cael eu gosod gan y gyfraith.
Mae profion yn cael eu cynnal mewn gweithfeydd trin dŵr, yn y systemau dosbarthu ac mewn tapiau defnyddwyr mewn mannau daearyddol dynodedig sy’n cael eu galw yn ardaloedd cyflenwi dŵr.
Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn gwirio canlyniadau’r prawf ac yn cynnal archwiliadau i sicrhau bod y canlyniadau yn ddibynadwy ac yn rhoi’r darlun cywir o safon y dŵr sy’n cael ei cyflenwi.
Mae’r ‘ADY’ hefyd yn archwilio cwynion digwyddiadau’r cwsmeriaid a allai effeithio ar safon y dŵr yfed.
Cysylltwch â:
Arolygiaeth Dŵr Yfed
55 Whitehall,
Llundain,
SW1A 2EY
Ffôn:
020 7082 8024
|