Dee Valley Water Background Hafan Cwsmeriaid eich cyflenwad dŴr Gwasanaethau Arlein Cymuned Gwasanaethau arall  
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy Hafan Codau Ymarfer
Section underline
Dee Valley Water Background
Section Underline
* Cliciwch eitem o'r ddewislen i'w ehangu

 
Section Underline

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc

Swyddfa Gofrestredig:
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam LL14 4EH

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3527628


Dŵr Dyffryn Dyfrdwy – Codau Ymarfer

Mae pob cod ymarfer mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn adlynu iddo yn cael eu cyhoeddi yma ac yn cael eu diweddaru yn aml.

  • Casglu taliadau heb eu talu - Cwsmeriaid Cartref
    Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn darparu dŵr o safon uchel i gartrefi 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’n rhaid talu am y gwasanaeth dŵr yn brydlon. Rydym yn gwerthfawrogi bod gan ambell i gwsmer anawsterau talu biliau ac rydym yn gwneud ein gorau i gytuno ar y ffordd fwyaf addas ar gyfer y trefniadau talu.
    Mae’r daflen yma yn esbonio sut fedrwn ni helpu. Mae hefyd yn amlinellu beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu. Cysylltwch â ni os oes gennych anawsterau talu gan fod gweithred brydlon yn galluogi ni i’ch helpu.
  • Gollyngiad mewn Adeilad Cartref Domestig
    Mae gan Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ddyletswydd i atal gwastraff ac i hyrwyddo’r defnydd effeithlon o ddŵr gan ein cwsmeriaid (cyfeiriwch at ein “Canllaw i Wasanaethau Dŵr” sy’n manylu ar effeithlonrwydd a chadwraeth dŵr sy’n cael eu cynnwys gyda’ch bil cychwynnol). Mae gollyngiadau o bibwaith cwsmeriaid yn gyfrifoldeb iddyn nhw. Fodd bynnag, gallwn ddarparu cymorth lle fo angen.
  • Cwsmeriaid Domestig
    Mae’r Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 yn galluogi i’r cyflenwad dŵr cyhoeddus a’r gwasanaethau carthffosiaeth yn Lloegr a Chymru i gael eu darparu gan gwmnïoedd sector breifat ac yn gwneud fframwaith cryf o amddiffyniad i gwsmeriaid.
    Mae eich hawliau statudol unigol yn cael eu cynnal a’i chryfhau o dan y Ddeddf yma, er enghraifft, gallwch gymryd camau sifil yn ein herbyn am unrhyw golled neu niwed a ddioddefwyd os rydym yn methu ein dyletswydd o dan y Ddeddf i ddarparu dŵr ar gyfer pwrpasau domestig. Mewn ychwanegiad i barchi eich hawliau statudol, bydd y cwmni, fel polisi, yn ceisio ateb cwynion yn gyflym ac yn deg wrth ystyried amgylchiadau.
  • Cynllun Gwarantu Safonau
    Mae’r cwmni yn ymroddedig i ddarparu safon o wasanaeth sy’n gwella’n barhaus i’n gwsmeriaid. Mae’r Cwmni yn gweithredu Cynllun Gwarantu Safonau sy’n rhagori’r canllawiau sy’n cael eu gosod allan gan y Cadfridog Cyfarwyddwr o’r Swyddfa Gwasanaethau Dŵr (‘OFWAT’). Efallai, bydd methu cwrdd â’r safonau yma yn rhoi’r hawl i chi gael taliad iawndal a fydd yn cael ei gredydu i’ch cyfrif neu yn cael eu talu yn uniongyrchol i chi. Ni fydd unrhyw daliad yn cael eu gwneud os yw eich cyfrif yn fwy na 6 wythnos yn ôl-ddyled.