Dee Valley Water Background Hafan Cwsmeriaid eich cyflenwad dŴr Gwasanaethau Arlein Cymuned Gwasanaethau arall  
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy Hafan Amdanom ni - Rhanbarth Cyflenwi
Section underline
Dee Valley Water Background
Section Underline
* Cliciwch eitem o'r ddewislen i'w ehangu

 
Section Underline

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc

Swyddfa Gofrestredig:
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam LL14 4EH

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3527628


Rhanbarth Cyflenwi

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc yn cyflenwi dŵr i tua 258,000 o gwsmeriaid yng Nghaer a Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. (Gwelir y map isod).

Rydym yn cyflenwi 23 miliwn tunnel o ddŵr pob blwyddyn dros ardal o 831 kilometr sgwâr.

Mae’r holl ddŵr mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn puro ac yn cyflenwi i’w cwsmeriaid yn dod o lawiad, a storiwyd yn ystod y cyfnodau gwlyb ac mae’r gwarchodfeydd yma yn cael ei galw arno yn ystod cyfnodau sych. Mae Llyn Celyn, Brenig a Llyn Bala yn dal cyflenwadau sy’n bwydo’r Afon Dyfrdwy o le rydym yn tynnu 90% o’n gofyniadau blynyddol.

Yn ogystal ag echdynwyr eraill - ‘United Utilities’, Dŵr Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd - rydym yn rheoli’r adnodd pwysig o Afon Dyfrdwy. Mae’r Afon Dyfrdwy yn cyflenwi mwy o ddŵr i gyflenwad cyhoeddus na holl Ardal y Llynnoedd Saesneg.

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy hefyd yn meddiannu dŵr o wyth cronfa dŵr craidd, sy’n cael eu bwydo o dir gasglu ar y bryniau lleol ac o amgylch Llandegla.

Unwaith mae’r dŵr wedi eu trin i’w wneud yn ffit i yfed yn un o’n chwech gwaith trin, mae’n pasio trwy ryw 1,940km o bibellau dŵr i gartrefi, swyddfeydd a ffatrïoedd ein cwsmeriaid. Mae hyn yn fwy o brif bibellau na hyd cyfan y prif ffyrdd yn Sir Gaer.

Mae’r defnydd o dŵr wedi dyblu yn y 20 mlynedd diwethaf.