Dee Valley Water Background Hafan Cwsmeriaid eich cyflenwad dŴr Gwasanaethau Arlein Cymuned Gwasanaethau arall  
Dŵr Dyffryn Dyfrdwy Hafan Amdanom ni
Section underline
Dee Valley Water Background
Section Underline
* Cliciwch eitem o'r ddewislen i'w ehangu

 
Section Underline

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc

Swyddfa Gofrestredig:
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam LL14 4EH

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3527628


Ynglŷn â Dŵr Dyffryn Dyfrdwy

Ffurfiwyd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn 1997 gyda’r cyfundoddiad o’r Cwmnïau Dŵr Caer a Dŵr Wrecsam blaenorol. Roedd gan y ddau gwmni blaenorol yma wreiddiau oedd yn ymestyn yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn gwmni dosbarthu dŵr yfed yn unig ac nid yw hi’n delio gyda’r symudiad o garthffosiaeth. Mae ein hardal o gyflenwad yn gorchuddio 831 o kilometrau sgwâr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Rydyn ni’n gweithredu wyth cronfa ddŵr, dwy ffynhonnell echdynnu afon a dwy ffynhonnell dŵr daear i gyflenwi tua 62 miliwn litr y dydd i dros 258,000 o gwsmeriaid.

Mae dŵr yn cael eu trin mewn chwe gweithfa triniaeth ac mae’r dŵr yn cael eu darparu trwy rwydwaith o 1,940km o brif bibellau dŵr, 25 gorsaf bwmpio a 37 cronfa dŵr glân.

Ein prif gyfrifoldeb yw gweithredu a chynnal ein rhwydwaith o asedau i sicrhau cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed i’n cwsmeriaid.

Yn gyffredin a’r 24 cwmni dŵr arall yng Nghymru a Lloegr, rydyn ni’n cael ein rheoli gan statud cyfreithiol.

Mae’r rheolydd economaidd, ‘OFWAT’ yn gyfrifol am osod cyfyngiadau pris allwn ni cymhwyso. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am fonitorio ein perfformiad ac yn defnyddio data a gyflenwyd i gymharu lefelau economaidd a pherfformiad ar draws y diwydiant.

Y rheolydd sy’n atebol am ansawdd dŵr yfed yw’r Arolygiaeth Dŵr Yfed sy’n gweithredu ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Dŵr Dyffryn Dyfrdwy..

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn goruchwylio ein perfformiad amgylcheddol ni, yn arbennig mae’n rheoleiddio’r echdyniad o ddŵr o’n ffynonellau.

Pob blwyddyn mae un o’r rheolyddion yn cyhoeddi adroddiad, sy’n cymharu ein perfformiad ni yn erbyn safonau cenedlaethol sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr, lefelau gwasanaeth ac argaeledd adnoddau a pharamedrau eraill.