Menu Backgroung
Menu Background Wrecsam Caer Tŷ Mawr
Hanes Dŵr yn Caer  
 

Mae yna ddigonedd o dystiolaeth fod Caer wedi mwynhau rhyw fath o gyflenwad dŵr ers canrifoedd, yn wir, darganfuwyd darnau o bibellau dŵr Rhufeinig ar strydoedd Caer. Mae’n bosib gweld un enghraifft yn amgueddfa Grosvenor ac mae ganddi arysgrif sydd ar ôl ei gyfieithu yn darllen:

'“Cyweiriwyd y bibell blwm yma pan oedd Vespasian a Titus yn gonsolau am y nawfed a’r seithfed waith yn ôl eu trefn a phan oedd Cnaeus Julius Agricola yn Llywodraethwr i Brydain o 78-86 OC.”

   

Darganfuwyd pibellau llestri pridd a chredwyd eu bod o wneuthuriad canoloesol yn ogystal â phibellau dŵr pren a chafnwyd o foncyffion.

Mae rhai haneswyr yn credu bod, tua’r flwyddyn 1300, cymerwyd dŵr o’r ffynnon yn ‘Christleton’ adnabuwyd fel ‘Ffynnon Abbott’ a throsglwyddwyd y dŵr yma trwy bibellau llestri pridd a gosodwyd gan fynachod o dan batent a rhoddwyd gan Edward y Cyntaf, i dyfrgist a lleolwyd yn Boughton ac mewn cloestrau’r Mynachdy (sydd nawr yn yr eglwys gadeiriol).

Recordiwyd yn 1537 bod Doctor Wall wedi dechrau adeiladu cwndidau yn Boughton i drosglwyddo dŵr i Glwyd y Bont, ac yn 1582 roedd altrad o’r cwndid wedi dechrau dod a dŵr i’r ‘High Cross’ yng nghanol y Ddinas.



Ffotograff Awyrol o’r Dyfrdwy fel mae’n edrych heddiw

Gweithiau Boughton

Yn y flwyddyn 1600 roedd y Maer a’r Dinasyddion, wedi caniatáu’r hawl i John Tyrer i godi’r dŵr o’r Dyfrdwy yng Nghlwyd y Bont, adeiladu tŵr ar y Glwyd, gosod dyfrgist, peiriannau neu declynnau eraill i godi dŵr ac i agor strydoedd a gosod pibellau.

Yn hwyrach yn 1622, gyda chaniatâd y Maer a Dinasyddion y Ddinas, wnaeth John Tyrer ymgymryd adeiladu gweithdai dŵr yn Spital, Boughton, safle’r Gweithiau Trin Dŵr Afon Dyfrdwy ac yn 1632 wnaeth e drosglwyddo’r Gweithiau Dŵr ar Glwyd y Bont a Boughton i Sir Randle Mainwaring ac eraill. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach cwympodd y gwaith dŵr i mewn i ddadfeiliad.

Yn 1692 caniatawyd y Maer a’r Dinasyddion i John Hopkins o Firmingham a John Hadley o Gaerwrangon yr hawl i wneud Gweithiau newydd ar Glwyd y Bont i godi Dŵr o’r Afon Dyfrdwy.

Yn 1698 roedd y ddau ddyn yma wedi trosglwyddo’r gwaith i John Williams ac eraill, trwy fwy, a’r rheina’n hawlio o danyn nhw, roedd yr ymgymeriad wedi eu cynnal tan i’r cwmni dŵr cyntaf gyda phwerau statudol cael eu ffurfio yn 1826 a diddymwyd y mewnlif i ‘Barrel Well Hill’ yn agos i Eglwys Boughton

Roedd y Cwmni wedi ei ail ansoddi gan y Ddeddf o 1857 a mewnlif arall a adeiladwyd tua milltir a hanner yn uwch o’r ddinas ar yr ochr gorllewinol o’r Dyfrdwy. Meddiannwyd Deddfau Senedd a Dŵr pellach rhwng y blynyddoedd 1874 1 1959.

Gwelir o’r uchod fod y Cwmni’n deillio, yn annibynnol o’i Theitl Seneddol, Teitl o dan y cymorthdaliadau caffaeledig gan y pryniant o’i rhagflaenydd.

Mae’r ddelwedd i’r dde yn wahoddiad o’r cyfarwyddwr Cwmni Gwaith Dŵr Caer, Mr T Gibbons Frost, i’r agoriad o’r ‘Cronfa Dŵr wedi’i Hidlo Newydd’ yn y gweithiau Boughton, Caer ar Ddydd Gwener 18fed Mehefin 1937.

I ddilyn nes ymlaen yn y prynhawn gan yr agoriad o’r Tŵr Dŵr ‘Overleigh’.

Cliciwch ar y ddelwedd i weld y gwahoddiad maint llawn.

 

 



Cliciwch ar y ddelwedd i weld y gwahoddiad maint llawn.
click to view a larger image
Gwahoddiad i Mr a Mrs G.W. Bennett i’r seremoni agoriadol