Dee Valley Water Background Hafan Cwsmeriaid eich cyflenwad dŴr Gwasanaethau Arlein Cymuned Gwasanaethau arall  
Cymuned Hamdden Gymunedol - Pysgota/Cronfa Ddŵr
Section underline
Dee Valley Water Background
Section Underline
* Cliciwch eitem o'r ddewislen i'w ehangu

Diogelwch yn y Cartref

 
Section Underline

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc

Swyddfa Gofrestredig:
Packsaddle
Ffordd Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam LL14 4EH

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 3527628



Tymor Pysgota â Phlu 2007.


Cliciwch yma i weld y fersiwn argraffadwy o’r Ffurflen Gais Pysgota â Phlu 2007.

Danfonwch eich Ffurflenni Gais gorffenedig i:-

Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ccc
Packsaddle
Heol Wrecsam
Rhostyllen
Wrecsam
LL14 4EH

Ffôn. 01978 846946
Ffacs. 01978 846888

AMODAU

1. Mae’n rhaid rhoi o leiaf 12 awr o rybudd er mwyn neilltuo rhoden. Bydd y rhodau sy’n cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin gyda’r rhifau o rodau yn gyfyngedig i ddoethineb y Beili. Gallwch gysylltu â’r Beili ar 01978 840116 (24 awr) neu 01978 846946 (oriau swyddfa)

2. Mae’n rhaid i bob genwair feddiannu trwydded rhoden ddilys wedi ei rhoi gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

3. Mae’n rhaid i enweirwyr symud eu sbwriel i gyd oddi ar lan y gronfa ddŵr a sicrhau eu bod nhw ddim yn llychwino neu’n llygru’r tir neu dŵr y Cwmni.

4. Ond Pysgota â phlu a ganiateir ar ddyfroedd y Cwmni.

5. Mae’n rhaid i bob brithyll brown cael eu dychwelyd i’r gronfa ddŵr gyda’r lleiafswm o drafod.

6. Fydd y cronfeydd dŵr ar agor i bysgota o 8.00yb tan 1 awr ar ôl machlud haul. 10.30yh yw’r amser cau.

7. Mae gan y Cwmni'r hawl i gau pysgota ar unrhyw gronfa ddŵr heb ragrybudd. Lle yn bosib, bydd dewis arall o bysgota yn dibynnu ar argaeledd.

8. Bydd y daliwr trwydded yn pysgota yn y gronfa ddŵr yn mentro perygl eu hun. Nid yw’r cwmni yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am niwed neu golled i eiddo’r genweiriwr.

9. Ni ddylai unrhyw rod gael ei adael gyda’r plu yn y dŵr heb fod neb yn bresennol.

10. Dim ond gydag un rhod mae hawl gyda’r genweiriwr bysgota ar y tro.

11. O achos niwed gormodol i bysgod, mae’r defnydd o “boobies” yn cael eu cyfyngu i bysgod sy’n cael eu cymryd fel rhan o’r cyfyngiad bag.

12. Dylai dychwelyd daliad ar wahân cael ei gwblhau gan bob genweiriwr. Ni does modd trosglwyddo pysgod i enweiriwr sydd heb dal cyfyngiad bag.

Tariff:

TOCYN TYMOR YR HOLL DDYFROEDD - £300

Cronfa Ddŵr Tŷ Mawr

Tocyn Diwrnod (4 pysgodyn) £24.00
Tocyn Hanner Ddiwrnod (2 pysgodyn) £15.00

8.00y. - 2.00yp / 2.00yp - Cyfnos

Cronfeydd Dŵr Penycae

Tocyn Diwrnod (4 pysgodyn) £24.00
Tocyn Hanner Ddiwrnod (2 pysgodyn) £15.00

Unwaith mae cyfyngiadau bag wedi eu cymryd, mae hawl i enweirwyr i bysgota a rhyddhau gan ddefnyddio bachau didagell. Nid yw ‘Boobies’ yn ganiataol unwaith mae cyfyngiadau wedi eu cymryd.

Cronfeydd Dŵr

Mae dod o hyd i ni yn hawdd.

Mae gan y cronfeydd dŵr yn Nhŷ Mawr a Penycae ddigon o le i barcio a chyfleusterau toiledau.

Mae’r mynediad i Gronfa ddŵr Tŷ Mawr trwy glwyd pum bar ar yr ochr dde o’r heol, gyferbyn ag adeiladau allanol y ffarm.

Cyfeirnod Map ‘Pathfinder’O.S. 802:275478

Mae Cronfa Dŵr Penycae ar yr ochr dde o’r heol trwy’r gatiau haearn sydd gyferbyn a’r Ficerdy.

Cyfeirnod Map ‘Pathfinder’O.S. 806:274454

Parciwch ar y safleoedd caled a ddarparwyd a chaewch bob clwyd ar fynediad ac wrth adael ardaloedd y cronfeydd dŵr

ARDAL WRECSAM
CRONFEYDD DŴR PENYCAE A THŶ MAWR

Wedi eu gosod yn yr amgylchyniad darluniaidd o gefn gwlad Gogledd Cymru, mae’r cronfeydd dŵr yn Nhŷ Mawr a Penycae ond munudau i ffwrdd o Wrecsam a Chaer.

Mae yna tair cronfa dŵr, Tŷ Mawr 20 erw, Penycae Uwch 7 erw a Penycae Isaf 5 erw, a phob un yn cynnig pysgota gwych mewn amgylchyniadau a gwellwyd gan hedd a llonyddwch. Rydym ni yn adnabod nid yw genweiriwr ffyddlon eisiau sefyll ysgwydd yn ysgwydd, felly rydym yn cymryd camau positif i gynnal safon dydd o bysgota.

Mae Tŷ Mawr a Penycae ond 2 filltir ar wahân ond yn cynnig amodau hollol wahanol. Felly, pwy bynnag ffordd mae’r gwynt yn chwythu mae pysgota da ar gael bob tro.

Tŷ Mawr yw’r gronfa ddŵr mwyaf, gyda mwy o lannau agored. Mae hi wedi eu stocio gyda ‘enfysau’ ac mae ganddo haid o frithyll brown naturiol. Mae yna nosweithiau deori ardderchog o asgennau o ganol Mehefin tan ddiwedd mis Awst, yn cynnig efallai’r pysgota mwyaf cyffrous sydd o gwmpas. Mae Penycae yn cynnig dwy gronfa ddŵr llai sy’n hollol wahanol i’w gilydd.

Mae’r fforestydd a chefn gwlad gyfagos yn darparu digonedd o fywyd plu a’r cyfle i weddill y teulu i fwynhau cerddediad tra bod yr enwair yn canolbwyntio ar y busnes mwy difrifol.

Mae’r cronfeydd dŵr wedi eu stocio’n bennaf gyda physgod o 1½pwys-2½pwys, gyda physgod mwy hyd at 6pwys yn cael eu cyflwyno trwy gydol y tymor. Mae’r brithyll brown naturiol yn y tair cronfa ddŵr yn cynnig chwarae ardderchog, ond rydyn ni yn gofyn eu bod nhw’n cael eu dychwelyd heb eu niweidio er mwyn iddynt dyfu i’r dyfodol.

Mae’r cronfeydd dŵr yma i gyd yn pysgota yn dda gyda hudwyr yn gynnar yn y tymor. Mae plu gwlyb traddodiadol yn darparu chwarae da tan ddiwedd Ebrill. Gall plu sych o fis Mai a Mehefin gynnig sialens cyffroes tra bod naturolau yn darparu diet blasus i’r pysgod. Mae'r Gwybedyn Du, Draen Wen, Corynod ac Allddodion yn boblogaidd. Gall pysgota fod yn swrth ym mis Awst, ond ar achlysuron mae’n gallu fod yn gwbl gyffrous. Mae Medi a Hydref yn dod a asgenni, dadîs a silod mân i mewn i’r dewisiad o’r pryf gorau.