Galwyr Ffug
Adnabyddiaeth
| Bydd cynrychiolwyr y Cwmni yn cario cerdyn adnabod gyda nhw ac yn disgwyl i chi i wirio ei hunaniaeth cyn eu gadael i mewn i’ch cartref. Ni ddylech fyth adael unrhyw un i mewn i’ch cartref heb wirio eu carden adnabod ef neu hi yn gyntaf. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth cysylltwch â’n Ystafell Rheoli ar 01978 846946 os gwelwch yn dda. |
|
Cynllun Cyfrinair
Rydym yn gwybod fod yna rhai pobl sy’n dweud eu bod yn gweithio i ni dim ond er mwyn myned eich cartref. Dyna pam, mewn ychwanegiad i gario cardiau adnabod, rydym yn medru trefnu i’n gweithwyr i ddefnyddio cyfrinair pan eu bod yn eich ymweld. I gofrestru, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 01978 833200 i roi manylion am eich cyfrinair dewisedig. Mi fyddwn yn cadw manylion ohono ar ein system a bydd ein staff yn dyfynnu’r cyfrinair pan eu bod yn galw yn eich cartref.
Rhagofalon
6 pwynt allweddol i aros yn ddiogel.
- Edrychwch trwy’r ffenest neu dwll sbïo i adnabod y galwr cyn agor y drws.
- Peidiwch agor y drws heb roi’r gadwyn diogelwch arno yn gyntaf . Mae hi hefyd yn werth gwirio fod cefn yr adeilad yng nghlo gan fod galwyr ffug gan amlaf yn gweithio mewn parau.
- Edrychwch allan am wisg y cwmni neu gerbyd gyda lifrai’r cwmni arno, dylai fod wedi ei barcio yn gyfagos.
- Dylech wastad gwirio cardiau adnabod yn drylwyr. Sicrhewch fod y garden yn cario llun a rhif ffôn y cwmni.
- Os mewn amheuaeth, galwch rif y cwmni neu fel yr arall, cadwch rifau parod Dŵr, Nwy a Thrydan.
- Os oes gennych chi amheuaeth neu’n amheuon, galwch yr heddlu yn syth ar 999.
|